Arweiniad ar gyfer ysgolion (a
sefydliadau eraill yr awdurdodau lleol) ynghylch lleoli plant tu
allan i’w grŵp cronolegol.
- Caiff ysgolion
eu cynghori y dylid addysgu plant, fel arfer, o fewn eu grŵp
blwyddyn cronolegol.
- Ceir tystiolaeth
nad yw gosod plant mewn dosbarthiadau o blant iau, ar y gorau, yn
amharu o gwbl ar eu canlyniadau yn y tymor hir, ac ar y
gwaethaf, gall arwain at iechyd emosiynol mwy bregus, cyraeddiadau
is a gwaeth rhagolygon o ran cyflogaeth.
- Prin yw’r
dystiolaeth bod plant yn elwa o fod mewn dosbarth gyda grŵp o
oedran iau na hwy. Ceir peth tystiolaeth o welliannau byr dymor o
ran cyflawniad, ond ceir dirywiad o ran cyflawniad, sy’n is
na chyfoedion na chedwir yn ôl. Ymhlith yr effeithiau hir
dymor mae cynnydd mewn ‘cyfraddau rhoi’r gorau i addysg
a chyrhaeddiad academaidd is, diffyg hunan barch, a
chyfraddau is o ran presenoldeb yn yr ysgol, o’i
gymharu â chyfoedion na chedwir yn ôl.
- Y cyfiawnhad
arferol
Fel arfer, caiff un o’r canlynol eu cynnig fel cyfiawnhad
dros osod disgyblion mewn grŵp blwyddyn nad yw’n
grŵp a berthyn i’w hoedran cronolegol:
- i.) Bod y disgybl
yn meddu ar sgiliau deallusol eithriadol, ei fod
wedi ei ynysu fel dysgwr yn eu grŵp cyfoedion presennol,
ac yn peri anawsterau mawr i athrawon o ran darparu estyniad
priodol i’r cwricwlwm.
- ii.) Bod gan y
disgybl oediad eithriadol o ran sgiliau deallusol, na all
gymryd rhan mewn tasgau dysgu grŵp, a’i fod yn
peri anawsterau mawr i athrawon o ran gwahaniaethu
cwricwlwm.
- iii.) Yn aml mewn
cydgysylltiad â (ii), mae gan y disgyblion hyn oediad
emosiynol, ni allant ffurfio perthnasoedd digonol
gyda’u cylch cyfoedion, ac maent mewn perygl o gael eu
hynysu.
- iv.) Bu’r
disgybl yn absennol am gyfran helaeth o’r flwyddyn oherwydd
salwch neu am resymau eraill.
- v.) Oherwydd
cyflwr corfforol neu lesgedd y disgyblion, ymddengys eu bod angen
amgylchfyd llai peryglus nac sy’n bodoli mewn dosbarthiadau
ar gyfer eu gwir grŵp oedran.
- vi.) Ceir plant
sydd newydd gyrraedd y DU nad ydynt wedi cael blas o’r
cwricwlwm Cenedlaethol dwyieithog ac sydd angen amser i addasu i
fywyd ysgol yn y gwledydd hyn.
Y Goblygiadau
i’r disgybl.
Disgyblion mewn
grŵp oedran hŷn:
- Mae’n bur
bosibl bod disgyblion a osodir mewn grŵp blwyddyn ar y blaen
i’w hoedran cronolegol, yn cael eu hysgogi neu’n
teimlo’n llai rhwystredig mewn meysydd ble maent yn rhagori
nag y buasent pe baent yn eu grŵp oedran cronolegol. Ar y llaw
arall, gall y byddant yn wynebu heriau mewn meysydd ble efallai nad
yw eu cryfderau a’u hadnoddau personol wedi datblygu
cymaint. Yn neilltuol, gall disgyblion nad yw eu
haeddfedrwydd corfforol, cymdeithasol ac emosiynol yn cyfateb
i’w haeddfedrwydd deallusol eithriadol, ei chael yn anodd
cymdeithasu yn yr ysgol. Gall hyn arwain at ganlyniadau emosiynol
sylweddol, yn enwedig yn ystod llencyndod.
- Fodd bynnag, ble
mae aeddfedrwydd cyffredinol disgyblion yn fras yn unol ag
aeddfedrwydd deallusol, gallant elwa o gael eu lleoli o flaen
eu hoedran cronolegol. Ond dylid cadw mewn cof y gellir, o ddilyn
yr un cwricwlwm wedi ei gyfoethogi a gyda’r un grŵp
oedran cronolegol, sicrhau canlyniadau tebyg ac y bydd yn golygu
llai o risg.
- Unwaith mae
disgyblion wedi trosglwyddo i grŵp blwyddyn CC uwch,
mae’n anodd gwrth-droi’r newid, a bydd yn golygu
ailadrodd blwyddyn CC. Mae’n felly’n bwysig ystyried
canlyniadau symudiad o ran cerrig milltir addysgol pwysig
bydd y disgybl yn cyrraedd blwyddyn neu ragor o flaen yr oedran
arferol, yn trosglwyddo i’r cam nesaf, TGAU ac yn gadael yr
ysgol. Mae’n werth nodi na all disgyblion derfynu eu
haddysg yn 15 oed, ac felly, gall bydd yn ofynnol iddynt
drosglwyddo’n gynnar i’r chweched dosbarth neu goleg
addysg bellach.
- Dylai athrawon,
rhieni a disgyblion gwrdd â’r Gwasanaeth Seicoleg
Addysgol a’r Gwasanaeth Ymgynghorol i drafod goblygiadau
trosglwyddo i grŵp blwyddyn hŷn.
Lleoli mewn
grŵp blwyddyn iau.
- Mae ystyriaeth
debyg, er ei fod i’r cyfeiriad arall, yn berthnasol i
ddisgyblion a gedwir yn ôl flwyddyn neu ragor o
flynyddoedd’. Anaml iawn y caiff cryfderau ac adnoddau
disgybl eu cyfyngu’n gyson mewn pob maes, a gall naws o
ddisgwyliadau cyffredinol isel fod yn broblemus. Mae hyn yn peryglu
yn arbennig ddatblygiad sgiliau corfforol, emosiynol a
chymdeithasol.
- Dylai ysgolion a
theuluoedd gymryd gofal ynghylch cadw plant a gânt eu geni yn
ystod yr haf mewn blwyddyn is o ran CC. Gall bydd y disgyblion hyn
yn meddu ar gyraeddiadau a sgiliau cymdeithasol is nac eraill yn eu
blwyddyn CC, a hynny’n unig oherwydd iddynt gael llai o amser
ar gyfer addysgu a dysgu. Dylai ysgolion gymryd camau priodol i
ddelio â hyn yn nosbarth arferol y plentyn, trwy
wahaniaethu’r cwricwlwm yn ôl yr arfer.
- Unwaith eto, os yw
disgyblion allan o’r flwyddyn CC gywir, mae’n anodd
gwrthdroi’r newid a gall y byddant, o
“drosneidio” yn ôl i’r flwyddyn CC gywir,
yn cael profiadau anodd ac annymunol. Os ydynt yn parhau
â’u haddysg mewn blwyddyn CC is, byddant yn cyrraedd y
cerrig milltir addysgol pwysig; bydd hawl ganddynt adael yr ysgol
cyn cwblhau eu TGAU. Ac os ydynt yn neidio blwyddyn, neu’n
aros mewn blwyddyn CC is, ac yn cwblhau eu haddysg o fewn
oedran arferol ysgol, byddant yn colli’n gyfan gwbl y rhaglen
waith am Flwyddyn Gwricwlwm Genedlaethol gyfan mae ganddynt hawl
statudol i’w derbyn.
Goblygiadau i
ysgolion
- Dylai ysgolion fod
yn ymwybodol o’r goblygiadau o symud disgyblion allan
o’r flwyddyn CC gywir. Gall y penderfyniad i symud
disgybl allan o flwyddyn effeithio ar fynediad pan mae gormod wedi
ymgeisio am leoedd yn y ‘flwyddyn dderbyn”, a gall
hynny fod yn drafferthus iawn yn CA1, ble na all unrhyw
ddosbarth babanod sy’n cynnwys plant 5, 6 neu 7 oed, fod
â chymhareb uwch na 30 o ddisgyblion i un athro/athrawes, mae
angen cyflogi athro/athrawes ychwanegol os ceir disgybl ychwanegol
uwchben y rhif hwn.
- Ni ellir gwneud
eithriad o ran disgyblion a osodir tu allan i oedran
cronolegol. Gall disgyblion sy’n cael eu lleoli beri
i’r ysgol orfod talu am athrawon ychwanegol. Gallant
atal lleoedd ar gyfer disgyblion sydd i gael mynediad, a ble
gall y lleoliad fod yn briodol neu’n angenrheidiol. Gall bydd
“ysgolion sy’n derbyn” yn wynebu anawsterau
tebyg, wrth drosglwyddo cyfnod ar ddiwedd cyfnodau
allweddol.
Datganiad o
AAA
- Gall bydd lleoli
disgyblion ar ddatganiadau tu allan i’r flwyddyn CC yn arwain
at gostau ychwanegol. Os, ar ôl iddynt ail-adrodd blwyddyn CC
yn gynharach yn yr ysgol, mae disgyblion ar ddatganiadau yn aros
blwyddyn ychwanegol i gwblhau eu haddysg; byddant angen blwyddyn
ychwanegol o gyllid ar gyfer y ddarpariaeth testun datganiad.
- Ceir hefyd
oblygiadau i ddisgyblion sy’n destun datganiad AAA ac
sy’n trosglwyddo i flwyddyn CC o flaen eu hoedran gronolegol,
ac yna’n trosglwyddo o’r ysgol i’r coleg flwyddyn
yn gynnar. Mae’r AALL yn gyfrifol am ddisgyblion ar
ddatganiad o AAA nes maent yn 19 oed, ond aiff y datganiad yn
ddi-rym os yw disgybl yn mynychu coleg cyn cyrraedd 19 oed. Efallai
bydd ar rai disgyblion angen gwneud trefniadau arbennig i
fynychu’r chweched dosbarth neu’r Coleg Addysg
Bellach.
Canllawiau Arfer
Dda
- Mae hawl gan bob
plentyn gael ei addysgu gyda’i gyfoedion ef neu hi.
Mae’r ysgol yn gyfrifol am ddelio ag anghenion unigol trwy
gwricwlwm wedi ei bersonoli ac sydd yn wahaniaethol neu wedi ei
gyfoethogi.
- O dan amgylchiadau
eithriadol yn unig y dylai ysgolion ystyried symud disgyblion allan
o’r flwyddyn CC. Dylid ystyried y lleoliad yn
flynyddol, a chyd-benderfynu prun ai i gadw plentyn allan
o’u grŵp blwyddyn arferol neu eu lleoli yn ôl
gyda’u cyfoedion.
- I gyfiawnhau
gorfodi disgybl i aros i lawr flwyddyn, mae’n ofynnol bod
sgiliau addysgol y disgybl ar draws y rhan fwyaf o bynciau
ymhell islaw’r safon sy’n arferol yn eu blwyddyn
CC briodol; ac y ceir tystiolaeth bod ymdrechion rhesymol yr ysgol
i addasu a’i hymdrechion priodol i bersonoli’r
cwricwlwm wedi bod yn aflwyddiannus.
- O ganlyniad,
dylai’r disgybl dderbyn datganiad AAA, a dylid paratoi
Cynllun Addysg Unigol ar ei gyfer ef/hi sy’n cynnwys yn
benodol waith ar yr hyn sydd ei angen ar gyfer eu blwyddyn CC
briodol. Dylai unrhyw gynnig i drosglwyddo’r disgybl
o’r grŵp oedran cronolegol fod wedi cael ei gadarnhau yn
ystod y cyfarfod adolygu diweddar a fynychwyd gan rieni a’r
disgybl.
- Ni ddylai
disgyblion aros islaw eu blwyddyn CC briodol am gyfnod amhenodol.
Dylent ddychwelyd i’w blwyddyn CC briodol cyn gynted a bo
modd ac fel arfer erbyn diwedd y flwyddyn CC.
- Yn ystod y cyfnod
pan mae’r disgybl allan o’i flwyddyn, dylai’r
cwricwlwm fod yn wahanol yn ei hanfod o ran targedau, trosglwyddo a
chefnogaeth er mwyn galluogi cynnydd mwy cyflym yn y meysydd hynny
sy’n hanfodol ac er mwyn sicrhau bod y disgybl yn dychwelyd
yn llwyddiannus i’r grŵp blwyddyn cywir. Y nod
ddylai sicrhau bod y plentyn yn gwneud cynnydd cyflym ac y gellir
cynnal y cynnydd hwnnw hyd yn oed ar ôl i’r cyfnod o
leoli disgybl tu allan i flwyddyn, ddod i ben.
Ni ddaethpwyd ar
draws papurau cyhoeddedig ble ceir canlyniadau positif yn sgil
ailadrodd blwyddyn yn yr ysgol, neu oedd yn arfarnu effaith
gosod plentyn gyda grŵp blwyddyn hŷn.
Llyfryddiaeth
- Byrnes, D.A. &
Yamamoto, K (1985) Academic retention of elementary pupils: An
inside look. Education, 106, 2, 208-214.
- Cadieux, A. (2003)
A 3-year longitudinal study of self-concept and classroom behaviour
of Grade 1 retained pupils. Perceptual, and Motor Skills, 93, 2,
371-378.
- Clatworthy, V
(2005) The Perceptions of Parents, Pupils and Teachers on Grade
Retention. MSc Dissertation (unpublished), University of
Bristol.
- Eide, E.R and
Showalter, M.H. (2001) The effect of grade retention on educational
and labour market outcomes. Economics of Education Review, 20,
563-576.
- Ferguson, P.C.
(1991) Longitudinal outcome differences among promoted and
transitional at-risk kindergarten students. Psychology in the
Schools, 28, 2, 139-146.
- Honffy, M. &
Bachlechner, M. (1977) Children whose education is delayed: An
initial evaluation of the study. Praxis der Kinderpsychologie und
Kinderpsychiatrie, 26, 5, 176-184.
- Hong, G &
Raudenbush, S.W. (2005) Effects of Kindergarten Retention Policy on
Children’s Cognitive Growth in Reading and Mathematics.
Educational Evaluation and Policy Analysis, 27, 3, 205-224.
- Jimerson, S.,
Carlson E., Rotert, M., Egeland, B., & Sroufe, L.A. (1997) A
prospective, longitudinal study of the correlates and consequences
of early grade retention. Journal of School Psychology, 35, 1,
3-25.
- Mantzicopoulos, P.
(1997) Do certain groups of children profit from early retention? A
follow-up study of kindergarteners with attention problems.
Psychology in the Schools, 34, 2. 115-127.
-
Mantzicopoulos, P. & Morrison, D. (1992) Kindergarten
retention: Academic and behavioural outcomes through the end of the
second grade. American Educational Research Journal, 29, 1,
182-118.
- Peterson, S.E.,
DeGracie, J. S. & Ayabe, C. R. (1987) A longitudinal study of
the effects of retention/promotion on academic achievement.
American Educational Research Journal, 24, 1, 107-118.
- Westbury, M.
(1994) The effect of elementary grade retention on subsequent
school achievement and ability. Canadian Journal of Education, 19,
3, 241-250.
- John Hattie
– The major issues in the retention debate.
http://www.arts.auckland.ac.nz/FileGet.cfm?ID=4a924c93-057d-4c0e-8f32-36c11af6113c
Retrieved 18th July 2006.
- National Association of School Psychologist
– Position Statement on Student Grade Retention and Social
Promotion. www.nasponline.org/information.pospaper_graderetent.html.
Retrieved 18th July 206
- United Nations
Educational, Scientific and Cultural Organisation – The
Salamanca Statement and Framework for Action on Special Needs
Education. http://unesdoc.unesco.org/images/009/000984/098427eo.pdf
Retrieved 18th July 2006
Diolch i:
Awdurdodau lleol Birmingham City, Cheshire, Derby City, Salford,
South Gloucestershire, West Lothian, Staffordshire a Dinbych am
ddarparu polisiau fel esiampl.